Mae’r CSA (y Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol) wedi cael ei sefydlu i beri newid sylweddol ymhob rhan o’r system o ran y modd yr ymatebir i gam-drin plant yn rhywiol ar lefel leol a chenedlaethol.
Byddwn yn gwneud hyn drwy ganfod, cynhyrchu a rhannu tystiolaeth o safon uchel o’r hyn sy’n gweithio wrth atal a mynd i’r afael â’r cam-drin, a hynny gyda’r nod o oleuo polisïau ac arferion.
Caiff y Ganolfan ei hariannu gan y Swyddfa Gartref, dan arweiniad Barnardo’s, ac mae’n gweithio’n agos â phartneriaid allweddol o sefydliadau academaidd, Awdurdodau Lleol, iechyd, addysg, heddlu, a’r sector gwirfoddol.
Amcanion y Ganolfan
Mae holl weithgareddau’r Ganolfan yn gweithio tuag at y nod cyffredinol, sef cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc.
Mae’r amcanion penodol yn cynnwys:
- Ardaloedd ledled Cymru a Lloegr yn cael ymateb amlasiantaethol i gam-drin plant yn rhywiol, a hwnnw’n seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth am yr hyn sy’n gweithio.
- Y polisi cenedlaethol ar gam-drin plant yn rhywiol yn cael ei oleuo gan yr ymchwil a’r dystiolaeth ddiweddaraf gan y Ganolfan
- Mwy o ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o hyd a lled a natur CSE (camfanteisio ar blant yn rhywiol) a CSA (cam-drin plant yn rhywiol)
- Asesiad clir o’r modd y mae newidiadau a gwelliannau diweddar i bolisïau ac arferion wedi cael effaith ar hyd a lled a natur y cam-drin.