Blaenoriaethu Achosion o Gam-drin Plant yn Rhywiol yng Ngogledd Cymru

Croeso i ddigwyddiad y Ganolfan CPRh sy’n sôn am Flaenoriaethu Achosion o Gam-drin Plant yn Rhywiol, a gynhelir yn Llandudno ar 15 Medi.

Croeso i ddiwrnod diddorol o gyflwyniadau a gynhelir mewn partneriaeth â’r Ganolfan arbenigedd ar gam-drin plant yn rhywiol (Canolfan CPRh).

Bydd cyflwyniadau heddiw yn eich helpu chi a’ch cydweithwyr i ddysgu mwy am adnabod ac ymateb i achosion o gam-drin plant yn rhywiol, ac am weithio’n hyderus gyda phlant a theuluoedd. Drwy gydol y dydd, byddwn yn eich cyfeirio at ganllawiau ac adnoddau defnyddiol i’ch helpu i roi’r cymorth angenrheidiol i ddioddefwyr, goroeswyr a theuluoedd sy’n dioddef o ganlyniad i achosion o gam-drin plant yn rhywiol. Isod fe welwch y dolenni at yr holl adnoddau rydym wedi sôn amdanyn nhw yn y cyflwyniadau heddiw, a dolen at ein ffurflen werthuso. 

To view an English version of this page, click here.

Rhoi adborth i ni

Beth oedd eich barn am y digwyddiad Blaenoriaethu Achosion o Gam-drin Plant yn Rhywiol a gynhaliwyd heddiw, yn ogystal â’r gweithdai? Rhowch wybod i ni drwy lenwi’r ffurflen werthuso fer hon – dim ond pum munud fydd hynny’n ei gymryd.  

Our resources

Mother and daughter sitting on safe opposite professional

Graddfa a natur cam-drin plant yn rhywiol

Er mwyn mynd i’r afael â cham-drin plant yn rhywiol, mae’n rhaid i ni ddeall yn iawn beth sy’n ei achosi, ei hyd a’i led, ei raddfa a’i effaith. Yn ein hail gyflwyniad, bydd Nici Evans a Sharron Wareham yn trafod strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gam-drin plant yn rhywiol, a’r tueddiadau diweddaraf mewn data swyddogol ar gam-drin plant yn rhywiol o’n hadroddiad.

Police officer talking to a child and a professional at a table

Hyb Deall Data

Cyfle i ymchwilio’n ddyfnach i ddata lleol o bob rhan o Ogledd Cymru gan ddefnyddio Hyb Deall Data. Ar y dangosfwrdd ar-lein hwn gallwch weld data swyddogol gan wasanaethau plant lleol a’r heddlu ar lefel genedlaethol a lleol, a gweld amcangyfrifon cyfredol o ba mor gyffredin yw achosion cam-drin plant yn rhywiol yn eich ardal chi. 

Professional and child sat at a kitchen table together

Llwybr Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol

Yn y trydydd cyflwyniad hwn, bydd Suzanne Taylor yn eich cyflwyno i’r Llwybr Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol – ein hadnodd ar-lein rhyngweithiol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant, er mwyn eich helpu i ddeall y ffordd orau o ymateb iddyn nhw a’u teuluoedd. 

Professional speaking to child on the steps of a youth club

Arwyddion a dangosyddion

Bydd Paul Burnside yn cyflwyno’r Templed Arwyddion a Dangosyddion, ein hadnodd sy’n galluogi gweithwyr proffesiynol i greu darlun hyderus o’u pryderon ynghylch cam-drin plant yn rhywiol. Yn y gweithdy bydd cyfle i ddefnyddio’r templed ac i ystyried sut gellir ei ddefnyddio’n effeithiol yn ymarferol. 

A female teacher sat at a table next to a boy in a classroom. The teacher looks concerned and is listening to the boy

Cyfathrebu gyda phlant

Gwyddom fod llawer o bethau’n atal gweithwyr proffesiynol a phlant rhag siarad am gam-drin rhywiol. Bydd Dr Natasha Sabin yn cyflwyno’r Canllaw Cyfathrebu gyda Phlant, sydd wedi’i gynllunio i helpu unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant i adnabod pryd y gallai rhywbeth fod o’i le, ac i ddeall sut i roi’r hyder i blant gyfleu’r hyn sy’n digwydd iddynt. 

Cynllunio diogelwch mewn addysg

Mae gweithwyr addysg proffesiynol yn delio â nifer cynyddol o bryderon am ymddygiad rhywiol niweidiol: trafodaethau neu weithredoedd rhywiol, sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc, sy’n amhriodol ar gyfer eu hoedran neu eu cam datblygiadol. Bydd Lorraine Myles yn dangos sut i gefnogi plant gan ddefnyddio’r canllaw Cynllunio diogelwch mewn addysg. 

Child with family and professionals sat around a kitchen table

Cefnogi rhieni a gofalwyr

Bydd Suzanne Taylor yn cyflwyno’r Canllaw Cyfathrebu gyda Rhieni a Gofalwyr, sef adnodd gan y Ganolfan CPRh sy’n cynnig arweiniad ar y ffordd orau o gefnogi rhieni mewn pob math o wahanol gyd-destunau cam-drin plant yn rhywiol er mwyn cefnogi eu plentyn. 

Sefydliadau gwadd

Yn ogystal â’n siaradwyr a’n cyflwyniadau bydd nifer o gyrff statudol a gwirfoddol yn ymuno â ni, sy’n gweithredu yng Ngogledd Cymru ac yn gallu eich helpu i ymateb i achosion o gam-drin plant yn rhywiol. Gallwch ymweld â’u stondinau yn ystod egwyliau rhwng cyflwyniadau i gael sgwrs am eu gwaith a sut gallant eich helpu.

Cael cymorth

Os yw cam-drin plant yn rhywiol yn rhywbeth sydd wedi effeithio arnoch chi neu ar rywun rydych chi’n gweithio gyda nhw, mae pobl a gwasanaethau ar gael i’ch helpu. 

Ewch i’n tudalen ‘Get support’ ar ein gwefan i weld manylion gwasanaethau sy’n gallu cynnig cyngor a chymorth ar unwaith os oes gennych bryderon am gam-drin plant yn rhywiol. Gallwch hefyd chwilio drwy ein cyfeiriadur o wasanaethau cymorth yng Nghymru a Lloegr i weld manylion sefydliadau yn eich ardal chi a all helpu.

Cael cymorth

Rhagor o wybodaeth am y Ganolfan CPRh