Blaenoriaethu Achosion o Gam-drin Plant yn Rhywiol yn Ne Cymru
Croeso i ddigwyddiad y Ganolfan CPRh sy’n sôn am Flaenoriaethu Achosion o Gam-drin Plant yn Rhywiol, a gynhelir yn Abertawe ar 10 Medi.
Croeso i ddiwrnod diddorol o gyflwyniadau a gynhelir mewn partneriaeth â’r Ganolfan arbenigedd ar gam-drin plant yn rhywiol (Canolfan CPRh).
Bydd cyflwyniadau heddiw yn eich helpu chi a’ch cydweithwyr i ddysgu mwy am adnabod ac ymateb i achosion o gam-drin plant yn rhywiol, ac am weithio’n hyderus gyda phlant a theuluoedd. Drwy gydol y dydd, byddwn yn eich cyfeirio at ganllawiau ac adnoddau defnyddiol i’ch helpu i roi’r cymorth angenrheidiol i ddioddefwyr, goroeswyr a theuluoedd sy’n dioddef o ganlyniad i achosion o gam-drin plant yn rhywiol. Isod fe welwch y dolenni at yr holl adnoddau rydym wedi sôn amdanyn nhw yn y cyflwyniadau heddiw, a dolen at ein ffurflen werthuso.
To view an English version of this page, click here.
Rhoi adborth i ni
Beth oedd eich barn am y digwyddiad Blaenoriaethu Achosion o Gam-drin Plant yn Rhywiol a gynhaliwyd heddiw, yn ogystal â’r gweithdai? Rhowch wybod i ni drwy lenwi’r ffurflen werthuso fer hon – dim ond pum munud fydd hynny’n ei gymryd.
Ein hadnoddau
Graddfa a natur cam-drin plant yn rhywiol
Er mwyn mynd i’r afael â cham-drin plant yn rhywiol, mae’n rhaid i ni ddeall yn iawn beth sy’n ei achosi, ei hyd a’i led, ei raddfa a’i effaith. Yn ein hail gyflwyniad, bydd Nici Evans a Sharron Wareham yn trafod strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gam-drin plant yn rhywiol, a’r tueddiadau diweddaraf mewn data swyddogol ar gam-drin plant yn rhywiol o’n hadroddiad Graddfa a natur cam-drin plant yn rhywiol: Adolygu’r dystiolaeth, a gyhoeddwyd yn 2026.
Hyb Deall Data
Cyfle i ymchwilio’n ddyfnach i ddata lleol o bob rhan o De Cymru gan ddefnyddio Hyb Deall Data. Ar y dangosfwrdd ar-lein hwn gallwch weld data swyddogol gan wasanaethau plant lleol a’r heddlu ar lefel genedlaethol a lleol, a gweld amcangyfrifon cyfredol o ba mor gyffredin yw achosion cam-drin plant yn rhywiol yn eich ardal chi.
Llwybr Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol
Yn y trydydd cyflwyniad hwn, bydd Dr Natasha Sabin yn eich cyflwyno i’r Llwybr Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol – ein hadnodd ar-lein rhyngweithiol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant, er mwyn eich helpu i ddeall y ffordd orau o ymateb iddyn nhw a’u teuluoedd.
Arwyddion a dangosyddion
Bydd Paul Burnside yn cyflwyno’r Templed Arwyddion a Dangosyddion, ein hadnodd sy’n galluogi gweithwyr proffesiynol i greu darlun hyderus o’u pryderon ynghylch cam-drin plant yn rhywiol. Yn y gweithdy bydd cyfle i ddefnyddio’r templed ac i ystyried sut gellir ei ddefnyddio’n effeithiol yn ymarferol.
Cyfathrebu gyda phlant
Gwyddom fod llawer o bethau’n atal gweithwyr proffesiynol a phlant rhag siarad am gam-drin rhywiol. Bydd Dr Natasha Sabin yn cyflwyno’r Canllaw Cyfathrebu gyda Phlant, sydd wedi’i gynllunio i helpu unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant i adnabod pryd y gallai rhywbeth fod o’i le, ac i ddeall sut i roi’r hyder i blant gyfleu’r hyn sy’n digwydd iddynt.
Cynllunio diogelwch mewn addysg
Mae gweithwyr addysg proffesiynol yn delio â nifer cynyddol o bryderon am ymddygiad rhywiol niweidiol: trafodaethau neu weithredoedd rhywiol, sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc, sy’n amhriodol ar gyfer eu hoedran neu eu cam datblygiadol. Bydd Lorraine Myles yn dangos sut i gefnogi plant gan ddefnyddio’r canllaw Cynllunio diogelwch mewn addysg.
Cefnogi rhieni a gofalwyr
Bydd Nici Evans yn cyflwyno’r Canllaw Cyfathrebu gyda Rhieni a Gofalwyr, sef adnodd gan y Ganolfan CPRh sy’n cynnig arweiniad ar y ffordd orau o gefnogi rhieni mewn pob math o wahanol gyd-destunau cam-drin plant yn rhywiol er mwyn cefnogi eu plentyn.
Rheoli risg a thrawma
Bydd Shauna Breen yn esbonio sut mae ein canllaw Rheoli risg a thrawma ar ôl troseddu rhywiol ar-lein yn rhoi cyngor ymarferol i weithwyr proffesiynol ar ddiogelu a chefnogi teuluoedd mewn cyfnod o drallod emosiynol enfawr pan fydd rhiant wedi cael ei arestio am droseddau cam-drin plant yn rhywiol ar-lein.
Cymorth ar gael ar y diwrnod gan New Pathways
Bydd New Pathways – sefydliad sy’n darparu cymorth arbenigol i oedolion, plant a phobl ifanc sy’n dioddef yn sgil ymosodiad rhywiol, achos o dreisio neu gam-drin rhywiol – yn ymuno â ni.
Cewch ddysgu popeth am y gwasanaeth maen nhw’n ei ddarparu i bobl sy’n dioddef yn sgil achos o gam-drin plant yn rhywiol, ac mae croeso i chi gael sgwrs gefnogol gyda nhw os yw unrhyw un o’r pynciau a godwyd yn ystod y cyflwyniadau a’r gweithdai wedi effeithio arnoch chi.
Sefydliadau gwadd
Yn ogystal â’n siaradwyr a’n cyflwyniadau bydd nifer o gyrff statudol a gwirfoddol yn ymuno â ni, sy’n gweithredu yn Ne Cymru ac yn gallu eich helpu i ymateb i achosion o gam-drin plant yn rhywiol. Gallwch ymweld â’u stondinau yn ystod egwyliau rhwng cyflwyniadau i gael sgwrs am eu gwaith a sut gallant eich helpu.
Cael cymorth
Os yw cam-drin plant yn rhywiol yn rhywbeth sydd wedi effeithio arnoch chi neu ar rywun rydych chi’n gweithio gyda nhw, mae pobl a gwasanaethau ar gael i’ch helpu.
Ewch i’n tudalen ‘Get support’ ar ein gwefan i weld manylion gwasanaethau sy’n gallu cynnig cyngor a chymorth ar unwaith os oes gennych bryderon am gam-drin plant yn rhywiol. Gallwch hefyd chwilio drwy ein cyfeiriadur o wasanaethau cymorth yng Nghymru a Lloegr i weld manylion sefydliadau yn eich ardal chi a all helpu.